Lleoliad:
Hybrid – Ystafelloedd Pwyllgora 1 a 2 a
Chynhadledd Fideo drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 25 Mai 2023
Amser:
09.31 -
11.12
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13448
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS Sioned Williams AS |
Tystion: |
Simon Pirotte |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Lucy Morgan (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
1.3 O dan Reol
Sefydlog 17.24A, datganodd Sioned Williams AS fod ei
gŵr yn cael
ei gyflogi gan Brifysgol Abertawe.
2 Gwrandawiad cyn-penodi Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
2.1 Trafododd y
Pwyllgor yr ymgeisydd a benodwyd gan Lywodraeth Cymru.
3 Papurau i'w nodi
3.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
4.1 Derbyniwyd y
cynnig
5 Gwrandawiad cyn-penodi Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil - ystyried y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn ystod y sesiwn flaenorol. Cytunwyd y byddai drafft diwygiedig o’r adroddiad yn cael ei gylchredeg a’i drafod eto yn y cyfarfod ar 7 Mehefin.
5.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Prif Weinidog yn gofyn am ddata ar benodiadau gweinidogol uniongyrchol.
6 Sesiwn i graffu ar waith Gweinidogion - trafod y dull gweithredu
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y dull gweithredu ar gyfer y seswn graffu ar y cyd. Byddai llythyr yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru yn rhoi braslun o’r meysydd penodol i’w trafod yn ystod y sesiwn.